BYWGRAFFIAD

Telynores ysbrydoledig a medrus yw Aisha sydd wedi perfformio ar draws y Deyrnas Unedig yn y Royal Festival Hall, Birmingham Symphony Hall, Lancaster House a Thŷ’r Arglwyddi. Fel aelod angerddol o gerddorfeydd, mae Aisha wedi perfformio gyda London Symphony Orchestra, Bournemouth Symphony Orchestra, City of Birmingham Symphony Orchestra, Birmingham Contemporary Music Group ac Academi St Martin in the Fields. Mae hi wedi gweithio gydag arweinyddion megis Gianandrea Noseda, Kazuki Yamada, Ryan Wigglesworth a John Wilson.

I gydnabod ei hymrwymiad a’i gallu eithriadol, mae Aisha wedi derbyn MMSF Philharmonia Fellowship ac LSO Conservatoire Scholarship

Yn 2023, enillodd Aisha y Rhuban Glas Offerynnol ar gyfer cerddorion dros 19 oed, derbyniodd Ysgoloriaeth Peggy a Maldwyn Hughes yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac enillodd Gystadleuaeth Unawdydd Ifanc Eastbourne Symphony Orchestra. Cyn hynny enillodd Ysgoloriaeth Nansi Richards yng Ngŵyl Delynau Cymru 2022. Yn sgil hyn, perfformiodd ar Lwyfan Encore yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae cydnabyddiaeth bellach o’i thalent ragorol yn cynnwys Gwobr Larry Adler, Olive Jenkins Memorial Bursary, Gwobr Peter Simon a Gwobr Guinness gan yr Academi Gerdd Frenhinol.

Mae Aisha wedi sefydlu ei hun yn rhyngwladol ac yn derbyn cydnabyddiaeth fyd-eang. Derbyniodd yr ail wobr yng Nghystadleuaeth Cerddoriaeth y Byd yng Ngŵyl Delyn Ryngwladol Cymru 2023, enillodd Wobr Ddeuawd Broffesiynol yng Nghystadleuaeth Telyn Ryngwladol Hong Kong 2022, ac enillodd y wobr gyntaf yn y Gystadleuaeth Delyn Ryngwladol “Walled Town”, Cittadella, yn yr Eidal. Derbyniodd hefyd yr ail wobr yng Nghystadleuaeth Telyn Ryngwladol Infinity a Diploma o Gystadleuaeth Ryngwladol Glowing Harp.